CROESEO I'R
Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru
Croeso Cymru
Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2025 ac rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Iau 27 Mawrth yn Venue Cymru, Llandudno.
Mae’r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yn rhoi cyfle i rannu arfer gorau o fewn y sector, i ysbrydoli a hyrwyddo arloesedd ac yn bwysicaf oll i ddathlu a chodi proffil diwydiant sy’n cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru.
Felly beth am ymuno â ni i ddathlu cyflawniad, gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant.
Os ydych chi’n ymwneud â diwydiant twristiaeth ein rhanbarth yna mae’r gwobrau hyn ar eich cyfer chi!
Edrychwn ymlaen at eich gweld.