Cynhelir Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru
Cynhelir Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ddydd Iau 27 Mawrth 2025 yn Venue Cymru, Llandudno.
Mae’r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yn rhoi cyfle i rannu arfer gorau o fewn y sector, i ysbrydoli a hyrwyddo arloesedd ac yn bwysicaf oll i ddathlu a chodi proffil diwydiant sydd wedi wynebu nifer o heriau yn y blynyddoedd diwethaf ac sy’n cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru.
Y Digwyddiad
Cynhelir Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Iau 27 Mawrth 2025.
Mae’r dathliadau’n dechrau gyda derbyniad diodydd yn syth wedyn gyda chinio 3 chwrs, cyflwyniad gwobrau a noson o adloniant a dawnsio.
Tei du fydd cod gwisg y noson.
Mae tocynnau digwyddiad ar gael am gost o £72 (ynghyd â TAW) y person.