Datganiad i'r Wasg

Hen gartref brenhinol yn un o berlau coron twristiaeth Cymru trwy ennill dwy wobr nodedig
Mae hen gartref brenhinol wedi cael ei goroni fel y gwesty gorau yng Nghymru ac mae hefyd wedi ei enwi fel y tŷ bwyta gorau.
Enillodd Gwesty Gwledig pum seren Plas Dinas yn y Bontnewydd, ger Caernarfon, y wobr yng Ngwobrau Twristiaeth Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a Croeso Cymru yn Venue Cymru yn Llandudno.
Yn y cyfamser, daeth tŷ bwyta’r gwesty, The Gunroom – sy’n cael ei redeg gan y prif gogydd Daniel ap Geraint sydd wedi cynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol sioe deledu boblogaidd BBC 2, Great British Menu – hefyd ar y brig.
Cyrhaeddodd cyfanswm o 48 cystadleuydd o bob cwr o Gymru y rhestr fer mewn 12 categori yn amrywio o’r Gwesty Gorau i’r Digwyddiad Gorau ac roedd y categorïau hefyd yn cynnwys gwobrau am Dwristiaeth Gynaliadwy, Hygyrchedd a Chynhwysiant a Chyfeillgar i Gŵn
Cyflwynwyd y digwyddiad gan Aled Rhys Jones, darlledwr adnabyddus sydd hefyd yn Brif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac fe’i noddwyd gan gwmni gwasanaethau bwyd Castell Howell.
Darparwyd adloniant gan grŵp poblogaidd Welsh of the West End a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent a Band Pres Llareggub gyda’u cymysgedd cyffrous o bop Cymraeg, jazz traddodiadol New Orleans a Hip Hop Efrog Newydd.
Prynwyd y lesddaliad ar gyfer Tŷ Gwledig Plas Dinas gan Daniel ac Annie Perks yn 2019 ar ôl iddynt syrthio mewn cariad â’r hen gartref brenhinol.
Yn ôl yn y 1960au, roedd y tŷ yn gartref i’r Arglwydd Snowdon sef, Anthony Armstrong-Jones, a’r Dywysoges Margaret yng ngogledd Cymru, yn encil iddynt rhag disgleirdeb a phrysurdeb bywyd Llundain.
Dyma’r lle hefyd a ddefnyddiwyd gan yr Arglwydd Snowdon i drefnu arwisgiad Tywysog Cymru, y Brenin Charles bellach, yng Nghastell Caernarfon yn 1969.
Ymunodd Daniel ap Geraint â The Gunroom yn 2018, flwyddyn cyn i Plas Dinas gael ei brynu gan Daniel ac Annie Perks, gan adfer yr adeilad a chodi’r bar ar gyfer lletygarwch yn y rhanbarth a gyda’i gilydd maent yn dîm perffaith i gyflawni pethau gwych.
Ers hynny, mae’r bwyty wedi cael ei ychwanegu at y Michelin Guide, gan ennill dwy rosette AA ac ennill Gwobr Rhestr Gwin AA Cymru 2024/25. Mi wnaeth Plas Dinas hefyd ennill wobr y Gwesty Gorau am Ramant yn y DU yng ngwobrau Condé Nast Johansens yn Llundain.
Ymhlith yr enillwyr mawr eraill ar y noson yr oedd Y Sioe Fawr a gynhelir yn flynyddol ger Llanfair-ym-Muallt a gafodd ei henwi fel y digwyddiad gorau yng Nghymru.
Mae’r sioe, un o’r digwyddiadau amaethyddol mwyaf yn Ewrop, yn denu tua 200,000 o bobl i faes arddangos enwog Llanelwedd, bob mis Gorffennaf.
Mae’n darparu arddangosfa ar gyfer da byw, cystadlaethau ceffylau, garddwriaeth, dringo polion, ffwr a phlu, yn ogystal â chynnal rhaglenni adloniant 12 awr gefn wrth gefn ar draws y safle.
Anrhydeddwyd Canolfan Copa Rock UK, yn Nhreharris, ger Merthyr Tudful, fel y gweithgaredd gorau.
Mae’n ganolfan breswyl awyr agored a wal ddringo yn denu 50,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae wedi derbyn sgôr pedair seren gan Croeso Cymru.
Mae’r gweithgareddau yn cynnwys dringo, cerdded bryniau, chwaraeon padlo, ogofa a saethyddiaeth a’r llynedd dyfarnwyd gwerth dros £11,000 o fwrsariaethau i’r atyniad, gan alluogi llawer o blant o deuluoedd tlawd i gymryd rhan yn y gweithgareddau.
Mae Plasdy Glangwili, ger Pencader, Sir Gaerfyrddin, oedd enillydd y categori Gwely a Brecwast, Tafarn a Gwesty Gorau, mewn ardal awyr dywyll ac mae ganddo atyniad trawiadol newydd, sef Profiad Bwyta mewn Caban yn Syllu ar y Sȇr.
Mae’r busnes wedi buddsoddi mewn Canllaw Digidol i Blasdy Glangwili, sy’n cael ei anfon at westeion ymlaen llaw, gan eu galluogi i gynllunio eu harhosiad – o archebu bwytai i atyniadau a phethau i’w gwneud yn yr ardal.
Mae’r system yn gysylltiedig â Google Maps ac yn caniatáu i westeion, llawer ohonynt yn ymwelwyr tro cyntaf i’r ardal, deithio o amgylch y rhanbarth a gwneud y gorau o’u hamser ar wyliau.
Aeth y wobr am Seren y Dyfodol i Charly Dix, Lan y Môr, y bwyty glan môr syfrdanol gyda sgôr Michelin ar Draeth Coppet Hall, Saundersfoot, yn Sir Benfro.
Llongyfarchwyd yr enillwyr gan Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sy’n gyfrifol am dwristiaeth a ddywedodd:.
“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru, yn enwedig yn 2025 – Blwyddyn Croeso.
“Mae’r gwobrau hyn yn arddangos rhagoriaeth mewn diwydiant hanfodol sy’n cyflogi bron i 12 y cant o’n gweithlu ac yn cyfrannu £3.8 biliwn i’n heconomi bob blwyddyn.
“Mae’r achlysur hwn wedi tanlinellu Cymru fel cyrchfan o’r radd flaenaf diolch i’n tirweddau trawiadol, ein lletygarwch eithriadol, a’n hatyniadau rhyfeddol, a’r cyfan wedi’I ategu gan ein diwylliant a’n treftadaeth unigryw.
“Rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol sy’n gwasanaethu fel llysgenhadon rhagorol, ac rwy’n arbennig o falch o weld Charly Dix yn ennill Gwobr Seren y Dyfodol – arwydd addawol ar gyfer dyfodol ein diwydiant.”
Rhestr lawn o enillwyr yng Ngwobrau Twristiaeth Genedlaethol Cymru
Gwesty Gorau: Gwesty Plas Dinas, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd
Llety Gwely a Brecwast, Tafarn a Tŷ Llety Gorau: Plasdy Glangwili, Llanllawddog, Sir Gaerfyrddin
Llety Hunanddarpar Gorau: Wonderful Escapes Fferm Wern-y-Cwm, Llandewi Skirrid, Y Fenni
Safel Carafanio, Gwersylla a Glampio Gorau: Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs, Ffinnant, Trefeglwys, Powys
Yr Atyniad Gorau: Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, Porthmadog, Gwynedd
Gweithgaredd, Profiad neu Daith Orau: Canolfan Copa Rock UK, Trelewis, Treharris, Merthyr Tudful
Bro a Byd (Y rhai sy’n mynd yr ail filltir ar Gynaliadwyedd Amgylcheddol): Bythynnod Cambrian, Berllan, Gwyddgrug, Pencader, Sir Gaerfyrddin
Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol: Bythynnod Stangwrach, Llanfynydd Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Y Lle Gorau i Fwyta: The Gun Room, Plas Dinas, Caernarfon, Gwynedd
Seren y Dyfodol: Charly Dix, Lan y Môr, Traeth Coppet Hall, Saundersfoot, Sir Benfro
Digwyddiad Gorau: Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys
Busnes Cyfeillgar i Gŵn Gorau: Plas Llangoedmor, Llangoedmor, Aberteifi, Ceredigion