Enillwyr Gwobrau 2025

Gwobr Croeso
Er cof am Ian Edwards i gydnabod gwasanaeth i dwristiaeth a lletygarwch

Fel rhan o Flwyddyn Croeso, cyflwynir “Gwobr Croeso” arbennig er cof am y diweddar Ian Edwards, Prif Weithredwr Y Casgliad Celtaidd ac ICC Cymru i gydnabod ei wasanaethau i dwristiaeth a lletygarwch.

Gwesty Gorau

Y gwesty 5* hwn ychydig y tu allan i Gaernarfon, oedd cartref yr Arglwydd Snowdon un tro. Ers i Daniel ac Annie gymryd yr awenau yn 2019, mae’r gwesty wedi cael ei adfer yn hyfryd, gyda 11 ystafell wely wedi’u dylunio’n unigryw. Maen nhw wedi gosod safonau newydd o ran rhagoriaeth y lletygarwch, gan gynnig gwasanaeth sy’n arbennig.

Llety Gwely a Brecwast, Tafarn, Tŷ Llety Gorau

Encilfa braf yng nghalon cefn gwlad Sir Gâr, lle cewch foethusrwydd anff urfi ol, llonyddwch a chroeso cynnes iawn. Mae Llety Gwely a Brecwast Moethus Glangwili Mansion yn cynnig tair ystafell hardd, bob un â’i chymeriad a’i steil unigryw.

Llety Hunanddarpar Gorau

Mae Wonderful Escapes at Wern-y-Cwm yn ganolfan encilio a llety gwyliau ar osod. Mae gan yr eiddo ei nodweddion gwreiddiol o 1570 gyda addurnwaith eclectiga manylion gwych.

Safle Carafanio, Gwersylla a Glampio Gorau

Mae Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs yn Barc Teithio a Chartrefi Gwyliau 5*. Agorwyd y Parc yn Chwefror 2022. Gyda’r carafanau sefydlog a’r cabanau gwyliau wedi’u gwasgaru hwnt ac yma ar y safl e, mae’n ymdoddi i natur wledig Cwm Trannon gerllaw.

Yr Atyniad Gorau

Rheilff yrdd eiconig Ffestiniog ac Eryri yw’r ail reilff ordd treftadaeth hynaf a hiraf ym Mhrydain, ac yn dathlu ei 70 mlwyddiant yn 2025. Mae dros 500 o wirfoddolwyr ymroddedig a staff craidd o 80 yn gofalu amdani.

Gweithgaredd, Profiad neu Daith Orau

Mae’r Summit Centre i’r de o Ferthyr Tudful, gyda bryniau a choetir hardd y Cymoedd yn teyrnasu drosti. Mae gan y ganolfan waliau dringo dan do, bowldro, llety ar gyfer grwpiau, caff i, man chwarae yn yr awyr agored, ogofâu artiff isial ac amrywiaeth o weithgareddau anturus ar y safl e ac oddi ar y safl e.

Bro a Byd (Y rhai sy'n mynd y filltir ychwanegol ar gynaliadwyedd amgylcheddol)

Mae Cambrian Cottages yn fusnes newydd, yn eiddo i Libby a Peter Newth. Dechreuon nhw’r busnes ym mis Ionawr 2024 ac mae ganddyn nhw dair rhandy hunanddarpar bwrpasol, wedi’u gosod mewn ysgubor o’r 19eg ganrif. Maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau cynaliadwy uchaf ac i’r broses o wella parhaus

Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol

Mae Bythynnod Gwyliau Stangwrach yn eiddo 5* hygyrch iawn gydag erwau o erddi hardd mewn hafan heddychlon gyda golygfeydd godidog o gefn gwlad agored Sir Gâr. Mae’n fusnes teuluol a’r nod yw darparu gwyliau sy’n addas i bawb, ond ddim mewn ffordd glinigol ac oeraidd.

Y Lle Gorau i Fwyta

Gyda bwydlen newydd bob mis, yn seiliedig ar y tymhorau ac yn defnyddio’r cynnyrch Cymreig lleol mwyaf ff res, mae bwyty gwobrwyog y Gunroom yn cynnig bwyd ardderchog mewn awyrgylch rhamantus a hardd mewn tŷ gwledig hanesyddol ym mherfeddion Eryri.

Seren y Dyfodol

Ymunodd Charly â’r Grove, bwyty partner Lan y Môr, fel ‘demi chef de rang’ ym mis Mawrth 2023, ond mewn fawr o dro, cafodd ei dyrchafu ddwywaith, cyn ymuno â Lan y Môr ym mis Mehefi n 2024 fel Prif Weinyddes. Unwaith eto, arweiniodd o’r tu blaen gan swyno cwsmeriaid ac ym mis Gorff ennaf 2024, dyrchafwyd Charly yn Is-reolwr y Bwyty. Mae ei gwên ddi-ball, ei chymwynasgarwch a’i hymroddiad yn ei gwneud hi’n fodel rôl go iawn yn y diwydiant.

Y Digwyddiad Gorau

Dyma un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop. Mae gan Sioe Frenhinol Cymru rywbeth i ddiddori pawb trwy amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, campau gwledig, stondinau, bwyd a diod a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd cyffrous.

Busnes Cyfeillgar i Gŵn Gorau

Enw’r brand yw ‘Plas Estate’ a’r genhadaeth yw cynnig “y llety cyfeillgar i gŵn mwyaf moethus a phoblogaidd yn y DU”. Mae Plas Estate yn darparu gwyliau gyda chŵn gan gynnwys Profiad “V.I. Pup” lle mae cŵn yn derbyn pecyn croeso o ddanteithion a hanfodion i sicrhau gwyliau moethus.